Meirion Jones episode artwork

EPISODE · Jul 3, 2022 · 50 MIN

Meirion Jones

from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru

Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones.Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun. Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y byddai’n ymddeol, neu ei fod yn torri hynny yn ei flas a gwireddu breuddwyd a byw fel artist o achos doedd o ddim y credu na fyddai wedi gallu maddau iddo fo ei hun tasa fo ddim. Roedd yn byw gartref o hyd a treuliodd y 10 mlynedd nesaf yn y stiwdio efo’i Dad. Roedd gan Meirion berthynas arbennig o glos efo’i Dad, medda fo. Dysgodd lawer iawn ganddo. Roedd hi’n berthynas symbiotig- roedd y ddau angen ei gilydd. Pan fu farw ei Dad, prynodd Joanna ag yntau 'small holding' tu allan i Abereifi. Dyma droi y beudy yno yn stiwdio ar gyfer y ddau. Cyfarfu Meirion Joanna yn Eisteddfod Abertawe ac mae hithau’n arlunydd llawn amser hefyd. Priodwyd y ddau yn 2013. Yn ddiddorol dydy Meirion erioed wedi arlunio ar ben ei hun, Roedd hefo’i Dad o’r blaen a bellach mae rhannu stiwdio efo Joanna.Mae’r byd mytholegol a chwedlonol o ddiddordeb mawr i Meirion. Cawn glywed hanes Chwedl Llyn y Fan fach. Mae’r chwedl hon wedi ei hudo drwy ei fywyd.

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Jul 3, 2022

Embed this episode

NOW PLAYING

Meirion Jones

0:00 50:32

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 50 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on July 3, 2022.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!