Meleri Davies episode artwork

EPISODE · Nov 13, 2022 · 50 MIN

Meleri Davies

from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru

"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio adref, fo ydi’r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain.Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo’i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau.Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri’n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri’n gweithio’n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion. Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Nov 13, 2022

Embed this episode

NOW PLAYING

Meleri Davies

0:00 50:35

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 50 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on November 13, 2022.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!