Skip to content
Myron Lloyd episode artwork

Jun 30, 2024 48 min

Myron Lloyd

from Beti a'i Phobol Hosted by BBC Radio Cymru

Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up’ yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour’. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen. Cafodd Myron ei derbyn i fynd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino’n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol. Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo’r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi’n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth. Ond 'da ni dal i feddwl amdani fel cantores gyda llais melfedaidd ac wedi arbenigo ar ganu gwerin. Cawn hanesion ei bywyd ac mae’n dewis cerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddi.

Episode details come from the podcast's RSS feed.

Embed this episode

Ready to play

Myron Lloyd

0:00 48:40

No transcript yet.

Requests help us decide what to transcribe next.

Frequently asked questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 48 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on June 30, 2024.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.