EPISODE · Jul 6, 2026 · 35 MIN
Phyllis Kinney
from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru
Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nôl yn 1997.Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar ŵr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y cyfarfu â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Merêd Evans, ac fe briododd y cwpl cyn symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au.Wedi iddynt ddychwelyd i Gymru, ymroddodd Phyllis a Merêd i gasglu, diogelu a hyrwyddo traddodiad canu gwerin Cymru, gan sicrhau bod caneuon gwerin yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cyfrannodd Phyllis yn helaeth at y maes drwy gyhoeddi erthyglau, papurau academaidd a llyfrau uchel eu parch ar gerddoriaeth. Dyma gyfle i wrando ar y sgwrs gynnes a chofiadwy Phillys Kinney gyda Beti George yn 1997.
What this episode covers

NOW PLAYING
Phyllis Kinney
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
Oct 3, 2025 ·28m
Sep 16, 2025 ·29m
Sep 16, 2025 ·47m
Sep 12, 2025 ·37m
Sep 11, 2025 ·40m
Sep 10, 2025 ·40m