Shan Jamil  Ashton episode artwork

EPISODE · Dec 11, 2022 · 50 MIN

Shan Jamil Ashton

from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru

Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George.Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest.Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru.Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy’r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd. Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi’n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi!Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Dec 11, 2022

Embed this episode

NOW PLAYING

Shan Jamil Ashton

0:00 50:24

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 50 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on December 11, 2022.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!