Skip to content
Stephen Rule - Doctor Cymraeg episode artwork

Mar 1, 2026 49 min

Stephen Rule - Doctor Cymraeg

from Beti a'i Phobol Hosted by BBC Radio Cymru

Mae Stephen yn cael ei adnabod fel y ‘Doctor Cymraeg’ ac yn adnabyddus fel athro Cymraeg, awdur a chrëwr cynnwys. Mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok a Youtube) er mwyn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn annog a helpu dysgwyr yr iaith i ennill hyder. Fel rhywun a ddysgodd Cymraeg yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd, mae eraill sydd yn wynebu heriau tebyg iddo yn medru uniaethu gydag ef ac mae ei angerdd yn ysbrydoliaeth iddynt. “Gorau, Dysgu, Cyd-Ddysgu” yw ei ‘motto’! Cafodd ei fagu ym mhentref Coed Llai ger yr Wyddgrug mewn ystâd tai cyngor, mewn ardal ddifreintiedig a Stephen oedd y person cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Mae ei Dad, ei Daid a'i Frawd ac ambell ewythr yn gweithio i gwmni Airbus ym Mrychdyn. Fe ddaw o gefndir di-gymraeg, ac anogaeth athrawes yn ysgol Castell Alun wnaeth ei ysbrydoli i ddysgu'r iaith a chael mynd i Jambori yr Urdd yn 12eg mlwydd oed. Fe aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg gydag Ieithoedd Celtaidd, a bu'n gweithio mewn siop yn y dref H&AR Ellis Hardware am tua dwy flynedd, ac yno y magodd hyder i siarad Cymraeg. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol gydag oddeutu 100 mil yn ei ddilyn. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan Al Lewis.

Episode details come from the podcast's RSS feed.

Embed this episode

Ready to play

Stephen Rule - Doctor Cymraeg

0:00 49:07

No transcript yet.

Requests help us decide what to transcribe next.

Frequently asked questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 49 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on March 1, 2026.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.