Y Parchedig John Owain Jones episode artwork

EPISODE · Nov 27, 2022 · 51 MIN

Y Parchedig John Owain Jones

from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru

Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon.Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i’r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau’n ffrindiau pennaf a bu’n was priodas i’w Dad. Priododd ei fam a’i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a’i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu’n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o’r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu’n gyson i’r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i’r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru.Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Nov 27, 2022

Embed this episode

NOW PLAYING

Y Parchedig John Owain Jones

0:00 51:30

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 51 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on November 27, 2022.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!