PODCAST · comedy
Hansh: Blas Cyntaf
by Hansh
Cyfle i chi greu podlediad ar gyfer Hansh. Rhywbeth newydd bob mis, am bob math o bynciau, gyda lleisiau newydd a diddorol. Syniad am bodlediad? Cysylltwch gyda ni!
Episodes
-
Ydy hi'n amser edrych ar sut i wella addysg hanes BAME mewn ysgolion?
Gyda phrotestiadau Black Lives Matter yn digwydd ledled y byd, mae Nia Morais a Marged Parry yn siarad am hiliaeth yn yr ysgol a'r gwahaniaeth y byddai addysgu pobl am hanes BAME yn ei wneud. Mae nhw'n trafod profiadau Nia o hiliaeth, pwysigrwydd dysgu am lenyddiaeth awduron BAME, a sut y gallwn...
-
Cadw i Fynd gyda'r Chwiorydd EmpowerMe
Yn dilyn eu podlediad ar addunedau blwyddyn newydd ym mis Ionawr, mae’r Chwiorydd EmpowerME yn ôl i sôn am sut i gadw i fynd a gwneud gwir newidiadau tymor hir i’n meddylfryd, ein bywydau a’n hapusrwydd. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o gymryd amser i edrych nôl, y ffyrdd gorau i gadw ffocws ac…
more -
Blwyddyn Newydd Dda gyda'r Chwirorydd EMpowerME: Addunedau
Oes pwrpas i addunedau blwyddyn newydd bellach? Sawl un sy’n cadw’i addunedau heibio i Ionawr gan wir neud newid i'w bywyd? Ydy ‘neud addunedau’n beth da neu’n beth drwg? Yn y podlediad yma mae'r mentoriaid meddylfryd Heledd a Lowri, y Chwiorydd EMpowerME, yn trafod manteision ac anfanteision...
-
FFOTOPOD #1 - Daf a Rob
Mae'r ffotograffwyr Dafydd Nant a Rob Holding yn siarad am technegau ac yn rhoi tips tynnu lluniau.
-
Nadolig Y Morgans
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda’r Morgans. Yn y podlediad yma ma’ Carys a Ffion o sianel youtube The Morgans yn trafod eu hoff a cas bethau am y Nadolig a sut ma’ nhw’n dathlu fel teulu. Beth yw eu hanrhegion gorau a gwaethaf? Oes rhaid gwisgo siwmper Nadolig dros yr ŵyl? A sut wnaeth Ffion…
more -
Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini
Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai...
-
Cysgu ("Awen" a "Sheila")
Mae Awen (Caryl Bryn) a Sheila (Mared Llywelyn) yn mynd i helpu chi ymlacio a disgyn i gysgu yn y podlediad arbennig ASMRaidd yma. Os oes ganddo'ch awydd wneud podlediad i Hansh, cysylltwch - [email protected]
-
Taith i'r Craidd
Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha...
-
Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?
Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn…
more -
Panad Parr #1 - Stacy Winson
Ymunwch ag Al Parr wrth iddo drio paneidiau gwahanol o de tra'n rhoi'r byd yn ei le. Yn y bennod gyntaf ei westai ydi Stacy Winson, dynas trawsrywiol o Lanrug, sy'n trafod Pride, dod allan, troseddau casineb ac agwedd tuag at fywyd, yn ogystal a cael panad o de fintys.
-
Rhywlediad Hansh gyda Elin a Katie
Ydyn ni’n siarad digon am ryw yng Nghymru? Yn y podlediad hwn ma’ Elin Meredydd a Katie Hall yn trafod un o’u hoff bynciau - rhyw: Gan rannu eu straeon a’u profiadau personol mewn ffordd agored ac weithiau graffig. Mae’r sgwrs rywiol amrywiol yn neidio o ddirgrynwyr i siâp y serfics, o iechyd...
-
Hollol Nyts....gyda Meleri ac Anna
Bydd chwarter ohonon ni yn cael ein heffeithio gan alergedd rhywbryd yn ystod ein bywyd. Ydy cael alergedd yn golygu stopio bwyta mas a newid ein ffordd o fyw? Beth ddylech chi neud os chi’n meddwl bod alergedd gyda chi? Sut ma’ helpu rhywun sy’n cael adwaith alergaidd? Yn y podlediad hwn bydd...
-
Ramadan dan sylw: Rhoi Eid yn ei le gyda Ameer a Yasmin
Yn y podlediad hwn bydd Ameer Rana yn sgwrsio â Yasmin Begum o Gaerdydd ar adeg bwysig yn y calendr Mwslimaidd: Ramadan ac Eid . Maent yn trafod mynd i’r mosg, sialensau ymprydio a’u hatgofion o dyfu fyny a dathlu’r gwyliau yng Nghymru: Beth y’ch chi’n cael neu ddim yn cael neud yn ystod Ramadan?...
-
Safio'r Byd efo Dan a Tom
A fyddai feganiaeth yn atal cynhesu byd-eang? Ydi Arnold Schwarzenegger yn arwr? Ydi Greta Thunberg jyst yn dojio ysgol? Oes unrhywun yn licio quiche? Tom ap Dan a Daniel Griffith sy'n trafod troi'n fegan, strapio uzi i fochyn, a thaflyd ysgytlaeth ar wleidyddion i SAFIO'R BYD.
-
Fel i Fod yn Ffeminist
Beth yw pwynt ffeministiaeth? Oes dal ei angen e yn 2019? Oes digon o ferched yn y diwydiant cerddoriaeth? Bydd Hollie a Gwenllian o'r band Adwaith yn trafod y pwnc a'u profiadau nhw o fod yn ferched ar y sîn gerddorol: Beth yw ffeministiaeth? Pam fod e dal yn bwysig heddiw?….A pham fod rhaid i…
more -
MADLIBINOGION gyda Elis a Tomos
Mae MADLIBINOGION yn cyfuno chwedlau’r Mabinogi a’r gêm geiriau Mad Libs. Yn y bennod gyntaf (ac, o bosib, yr olaf) mae Elis Derby a Tomos Morris-Jones yn chwarae ac yn ail-greu straeon Pwyll Pendefig Dyfed a Culhwch ac Olwen. Rhybudd – iaith gref a chynnwys anaeddfed.
-
Ffanibowan....gyda Heledd a Mari Elin
Beth sy'n cysylltu ffasiwn cynaliadwy a gin? Beth allwch chi neud a hen nicsys i achub y blaned? Beth yn y byd yw Ffanibowan? Croeso i fyd Heledd Watkins a Mari Elin Jones: Byd sy'n cyfuno ffasiwn, cerddoriaeth, celf....a gin. Rhybudd: Yn cynnwys rhegi! What links sustainable fashion and gin?…
more -
Diwedd y Sîn?....gyda Dan a Gwil
Beth yw dyfodol Sîn Cerddoriaeth Caerdydd? Dan Jones a Gwil Hughes sy'n trafod y sîn presennol, lleoliadau gigs pwysig yn cau a beth ma’ nhw'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Oes gobaith i'r Sîn? Rhybudd - cynnwys iaith gref....a chadair wichlyd!
-
Mwydro Mawreddog Mari a Meilir
Ymunwch a'r actorion amryddawn Mari Beard a Meilir Rhys Williams wrth iddynt falu awyr am bopeth sydd yn bwysig iddyn nhw: Beth sy'n mynd i ddigwydd yn y ddrama 35 awr? pwy sy'n mynd i ennill RuPaul's Drag Race?.....A byddant yn ateb y cwestiwn hollbwysig: 'top or bottom'? Rhybudd – yn cynnwys...
-
Dwy Chwaer, Un Het....Sion Corn: Hanna a Mared Jarman
Mae Dwy Chwaer Un Het yn dychwelyd gyda Hanna a Mared Jarman yn tynnu a thrafod pynciau Nadoligaidd o het Sion Corn. Beth oedd eu anrheg Nadolig gwaethaf, pa hysbysebion sydd wedi creu argraff....ac ydy Sion Corn yn 'scary'?! Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
-
Mynd Rownd a Rownd gyda Tom a Dyl
Tom a Dyl sy'n trafod pwnc pwysig sydd yn agos iawn at eu calonnau: Rownd a Rownd! Fel connoiseurs o'r opera sebon anfarwol cawn eu persbectif unigryw nhw ar y gyfres, clywed am eu hoff gymeriadau a straeon dros y blynyddoedd....a beth am spin-off yn Aberystwyth? Rhybudd – yn cynnwys rhegi.
-
Dwy Chwaer...Un Het: Hanna a Mared Jarman
Hanna a Mared Jarman sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Dwy Chwaer, Un Het, fformat newydd i'r podlediad lle mae'r ddwy yn tynnu enwau allan o het ar hap ac yn trafod y pynciau llosg. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Cyfle i chi greu podlediad ar gyfer Hansh. Rhywbeth newydd bob mis, am bob math o bynciau, gyda lleisiau newydd a diddorol. Syniad am bodlediad? Cysylltwch gyda ni!
HOSTED BY
Hansh
CATEGORIES
Loading similar podcasts...