Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

EPISODE · Sep 15, 2025 · 39 MIN

Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

from Hefyd · host Richard Nosworthy

Y mis yma fy ngwestai i ydy Daniel Minty, sy'n dod o Abertyleri yng nghymoedd y de-ddwyrain. Trwy'r sîn gerddorol a darlledu wnaeth e ddechrau dysgu'r iaith. Sefydlodd e Minty's Gig Guide, mae e wedi bod yn rhan o Wyl Sŵn yng Nghaerdydd ac wedi gweithio gyda BBC Cymru a Gorwelion/Horizons. Pan recordion ni ein sgwrs ym mis Hydref 2024, roedd Daniel yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn swydd gyda Menter Casnewydd. Ers i ni recordio mae e wedi newid swydd, a nawr (Medi 2025) mae e'n gweithio gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. *** Diolch i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am awgrymu cyfweld â Daniel. Ennillodd e wobr 'Dechrau Arni: Dysgwr Cymraeg' yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Rwy'n cyhoeddi'r podlediad yma yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (15-21 Medi 2025). Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Os hoffech chi ddysgu sgil newydd ym mis Medi mae eu gwefan nhw yn cynnig adnoddau am ddim ar addysg yn cynnwys cyrsiau, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: [email protected] neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

NOW PLAYING

Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

0:00 39:31

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

Dramatis Personae

May 15, 2026 ·1m

Act I

May 15, 2026 ·32m

Act II

May 15, 2026 ·25m

Act III

May 15, 2026 ·21m

Act IV

May 15, 2026 ·15m

Act V

May 15, 2026 ·20m

Sgwrsio am Brifysgol University Ready Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau. Crochan Disney David Herzog Mi fydd ein cyflwynydd David Herzog (o America) ac ei wraig April (o'r Wyddgrug) yn sgwrsio amdana popeth Disney. Y ffilmiau! Y parciau! Trifia Disney! Hefyd, mae David ac April yn dysgu Cymraeg, felly mae eu penodau o'r hyd a'r cyflymder perffaith i ddysgwyr Cymraeg. (Efo chymorth tiwtor, wrth gwrs!)Our presenter David Herzog (from America) and his wife April (from Mold) will chat about all things Disney. The Movies! The Parks! Disney Trivia! Also, David and April are learning Welsh, so their episodes are the perfect length and pace for Welsh learners. (With the help of a tutor, of course!) Craffu360 Golwg 360 Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru.Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw. Love Letters of Dorothy Osborne by Dorothy Osborne (1627 - 1695) LibriVox A lively, interesting and important collection of 17th century love-letters written by an English lady, against the background of the Civil War and the Restoration [summary by hefyd]After refusing a long string of suitors put forth by her family, including her cousin Thomas Osborne, Henry Cromwell (son of Lord Protector Oliver Cromwell) and Sir Justinian Isham, in 1655 Dorothy Osborne married Sir William Temple, a man with whom she had carried on a lengthy clandestine courtship that was largely epistolary in nature. It is for her letters to Temple, which were witty, progressive and socially illuminating, that Osborne is remembered. Only Osborne's side of the correspondence survived and comprises a collection of seventy-seven letters held in the British Library. (Summary from Wikipedia)Note: This reading contains all the letters in the correspondence but leaves out the editorial comments.
URL copied to clipboard!