Hefyd podcast artwork

PODCAST · society

Hefyd

Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg. A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.Cyflwynydd: Richard Nosworthy

  1. 22

    Geordan Burress - Ohio, Cymru a Super Furry Animals (o'r archif) | Pennod 33

    Cyfle arall i glywed sgwrs gyda Geordan Burress, o Ohio yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys. Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a rhannu ei phrofiadau ar daith i Gymru. Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.  *** Eisiau cymorth cyfathrebu? Rwy'n cefnogi sefydliadau nid-er-elw, gyda hyfforddiant, cynnwys a chyngor strategol.   

  2. 21

    Sut ddysgodd y Doctor Cymraeg yr iaith ei hun! (O'r archif) | Pennod 32

    Cyfle arall i glywed fy sgwrs gyda'r 'Doctor Cymraeg' - Stephen Rule. Athro Cymraeg ydy Stephen, mae e’n dod o ardal Wrecsam, ac erbyn hyn, mae dros cant mil o ddilynwyr gyda fe ar y cyfryngau cymdeithasol! Ond sut wnaeth y Doctor Cymraeg ei hun ddysgu'r iaith? Ar un adeg, doedd e ddim yn ddigon hyderus i siarad Cymraeg tu fas i’r ysgol. Felly dyma'r stori am sut wnaeth e fagu cymaint o hyder... Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Hysbyseb: Darganfyddwch y cymorth cyfathrebu dwi'n ei gynnig i elusennau a'r sector cyhoeddus. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.   

  3. 20

    Angharad Jones: Athrawes o'r Cymoedd sydd wedi dysgu Cymraeg (o'r archif) | Pennod 31

    Cyfle arall i glywed sgwrs gydag Angharad Jones, athrawes mewn ysgol Saesneg o Fedwas, Caerffili.  Mae hi'n trafod tyfu lan heb wersi Cymraeg yn yr ysgol, dysgu'r iaith trwy'r cynllun 'Cymraeg Mewn Blwyddyn' a defnyddio'r iaith wrth rhedeg. Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol ym mis Mai 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd, rhannwch gyda ffrindiau, a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.   

  4. 19

    Rhiannon Oliver: Yr actores Doctors a Torchwood o Benarth (o'r archif) | Pennod 30

    Cyfle arall i glywed sgwrs gyda Rhiannon Oliver, actores o Benarth sy wedi gweithio yn y theatr a theledu ers mwy nac 17 mlynedd. Mae ei gwaith hi wedi cynnwys perfformio gyda National Theatre Wales, teithio o gwmpas Prydain ac America, ac ymddangos ar Doctors a Torchwood. Roedd Rhiannon yn bartner siarad i fi yn y Cynllun Siarad hefyd. Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn Ebrill 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.   

  5. 18

    Barbara a Bernard: Traddodiad Nadolig a byw ar y ffin (o'r archif) | Pennod 29

    Dyma stori Nadoligaidd am gwpl a symudodd o Loegr i ardal o Gymru sy'n dafliad carreg o'r ffin.  Mae Barbara a Bernard Gillespie, o Wolverhampton yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg ac wedi'i defnyddio llawer yn eu cymuned nhw. Yn y sgwrs, 'dyn ni'n siarad hefyd am traddodiad creddorol y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Cyhoeddwyd y pennod yma yn wreiddiol yn Rhagfyr 2022. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Dilynwch fi ar Mastodon - cyfryngau cymdeithasol rhydd ac agored.   

  6. 17

    Walter Brooks: O Batagonia i Gymru (o'r archif) | Pennod 28

    Stori anhygoel Walter Brooks o Batagonia. Ar ôl clywed straeon am ei nain, oedd yn siarad Cymraeg yn yr Ariannin, dysgodd Walter yr iaith ei hun. Aeth ei gariad at y Gymraeg â fe i Gymru, ble mae e'n byw o hyd. Dyma ail gyfle i fwynhau stori Walter - tra fy mod i'n recordio penodau newydd, rwy'n ail-rannu sgyrsiau o'r archif. Cyhoeddwyd y sgwrs wreiddiol yn Chwefror 2021. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Hoffech chi fod yn y gyfres nesaf? Dyma'r manylion i gyd (dyddiad cau 5/12/2025). Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

  7. 16

    Jazz Owen: Dysgu ac addysgu yn Sir Benfro | Pennod 27

    Y tro yma rwy'n siarad gyda Jazz Owen (née Jazz Langdon). Mae Jazz yn byw yn Sir Benfro. Athrawes ydy hi, mewn ysgol gynradd. Mae Jazz wedi dysgu Cymraeg er mwyn helpu'r plant gyda'r iaith, ac mae hi'n helpu athrawon eraill hefyd. Yn y pennod yma 'dyn ni'n trafod yr iaith Gymraeg yn y sir, profiadau o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgol Saesneg, a sut dysgodd hi'r Gymraeg mewn cwrs dwys. Hefyd mae hi'n rhannu ei phrofiad o ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn ystod y pandemig yn 2020! Recordion ni'r sgwrs yma ym mis Rhagfyr 2024. Dyma'r pennod olaf o'r gyfres - cysylltwch â fi os hoffech chi fod yn westai yn y gyfres nesaf.  *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts

  8. 15

    Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

    Y mis yma fy ngwestai i ydy Daniel Minty, sy'n dod o Abertyleri yng nghymoedd y de-ddwyrain. Trwy'r sîn gerddorol a darlledu wnaeth e ddechrau dysgu'r iaith. Sefydlodd e Minty's Gig Guide, mae e wedi bod yn rhan o Wyl Sŵn yng Nghaerdydd ac wedi gweithio gyda BBC Cymru a Gorwelion/Horizons. Pan recordion ni ein sgwrs ym mis Hydref 2024, roedd Daniel yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn swydd gyda Menter Casnewydd. Ers i ni recordio mae e wedi newid swydd, a nawr (Medi 2025) mae e'n gweithio gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. *** Diolch i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am awgrymu cyfweld â Daniel. Ennillodd e wobr 'Dechrau Arni: Dysgwr Cymraeg' yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Rwy'n cyhoeddi'r podlediad yma yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (15-21 Medi 2025). Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Os hoffech chi ddysgu sgil newydd ym mis Medi mae eu gwefan nhw yn cynnig adnoddau am ddim ar addysg yn cynnwys cyrsiau, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: [email protected] neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

  9. 14

    Natasha Baker: ieithoedd, plant a sefydlu meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd | Pennod 25

    Y mis yma ein gwestai ni ydy Natasha Baker. Un o Birmingham yn wreiddiol, mae hi wedi meistroli'r Ffrangeg ac wedi byw yn Ffrainc. Ers symud i Gymru mae hi wedi dysgu Cymraeg a sefydlu meithrinfa Gymraeg Wibli Wobli yng Nghasnewydd. Yn ein sgwrs rydyn ni'n trafod sut i helpu plant i siarad ieithoedd gwahanol, a'r her o ail-adeiladu ei busnes ar ôl tân mawr.  Recordiais i'r sgwrs gyda Natasha ym mis Hydref 2024. Tudalen Facebook Meithrinfa Wibli Wobli *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: [email protected] neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

  10. 13

    Mike Parker: Ysgrifennu llyfrau a byw yn y Canolbarth | Pennod 24

    Y tro yma mae'r awdur a darlledwr Mike Parker yn ymuno â ni. Mae Mike yn byw yng Nghanolbarth Cymru ers 2000 ac mae e wedi cyhoeddi sawl llyfr am Gymru a thu hwnt, megis Map Addict, On the Red Hill, ac All the Wide Border. Yn ein sgwrs rydyn ni'n trafod sut a pham y dysgodd e Gymraeg, ysgrifennu'r Rough Guide to Wales a'i brofiad o sefyll fel ymgeisydd gwleidyddol. Nes i recordio gyda Mike ym mis Hydref 2024. Gwefan Mike  *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Anfonwch ebost: [email protected] neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

  11. 12

    Sara Peacock: S4C a dysgu Cymraeg yn y byd gwaith | Pennod 23

    Helo eto! Y tro yma dwi'n siarad gyda Sara Peacock. O Loegr yn wreiddiol (ond gyda theulu yng Nghymru), priododd hi fenyw o Eryri a symudon nhw i Gaerdydd. Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg, ac mae'r iaith wedi agor drysau i swyddi newydd. Heddiw mae hi'n gweithio i S4C, ac yn ein sgwrs mae hi'n esbonio sut mae'r sianel yn cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd. Ewch i wefan S4C er mwyn gweld yr holl rhaglenni ac adnoddau i ddysgwyr. Mae hwn yn cynnwys cylchlythyr dysgu Cymraeg a chyfrifon arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhowch wybod i fi beth dych chi'n meddwl am y pennod yma.  Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

  12. 11

    Israel Lai: O Hong Kong i Fanceinion - miwsig, ieithoedd a Youtube | Pennod 22

    Croeso'n ôl!  I ddechrau cyfres newydd, rwy'n siarad gydag Israel Lai. Mae Israel yn dod o Hong Kong yn wreiddiol, ond heddiw mae e'n byw ym Manceinion. Yn y pennod yma, rydyn ni'n clywed am ei brofiadau o symud i Loegr, dysgu Cymraeg a nifer o ieithoedd eraill, ei sianel Youtube, a chyfansoddi cerddoriaeth. Yn y sgwrs: Y llyfr mae Israel yn siarad amdano ydy Lleidr Penffordd gan Ifor Owen Allbwn ieithyddol Israel 'Rhapsody in Lingo' - ar ei Wefan, sianel Youtube ac Instagram Gwefan cerddorol Israel (Prynais i fiwsig newydd y podlediad o Sylvia Strand: www.screentales.co.uk) Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

  13. 10

    Cyfres newydd!

    Datganiad: Mae cyfres newydd ar y ffordd! Hoffech chi gymryd rhan? Dwi'n chwilio am bobl sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolion i fod yn westeion - manylion i gyd yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy Polisi preifatrwydd Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts

  14. 9

    Diana Luft: Canada, Cymru, a Chymraeg Canol | Pennod 21

    Yn y pennod olaf o'r gyfres yma, ein gwestai ydy Diana Luft, sy’n dod o Ganada yn wreiddiol. Mae Diana wedi astudio llawer o hen ddogfennau megis testunau meddygol (Plîs peidiwch â dilyn yr hen gyngor meddygol mae hi’n rhannu o’r oesoedd canol!) Heddiw, mae hi’n gweithio fel cyfieithydd, ac yn y sgwrs yma mae hi’n siarad am ei bywyd yn Nghanada a'r Unol Daleithiau, symud i Gymru, a’i phrofiadau o ddysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am Diana ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

  15. 8

    Steve Dimmick, Dyn Busnes o’r Cymoedd | Pennod 19

    Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy’n gwneud arolygon ar lein (online surveys). Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn y pennod yma, rydyn ni’n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu’r iaith a’i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned. Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r #CwestiwnYMis ar Twitter: ‘Dysgwyr: ble rwyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?’. Mae mwy o wybodaeth am Steve, gyda geirfa o'r pennod yma a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

  16. 7

    Jo Heyde, Bardd o Lundain | Pennod 18

    Yn y pennod yma rwy'n siarad gyda Jo Heyde. Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd! Erbyn hyn mae hi’n rhan o’r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi! Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r ‘Cwestiwn Y Mis’ postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?’. Mae gwybodaeth am Jo, gyda geirfa a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

  17. 6

    Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022 | Pennod 17

    Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022. Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol. Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith. Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith. Gallwch chi weld lluniau o Joe ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

  18. 5

    Josh Osborne, Enillydd Medal y Dysgwyr | Pennod 16

    Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae e'n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo (lockdown) penderfynodd e ddysgu'r iaith ar lein. Gallwch chi weld lluniau o Josh yn yr Eisteddfod, ac ymarfer ei hobi (ffitrwydd polyn) ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

  19. 4

    Rhian Howells, Awdur ac Athrawes o Ardal Abertawe | Pennod 15

    Y mis yma, dwi’n siarad gyda Rhian Howells o ardal Abertawe. Mae Rhian yn athrawes mewn ysgol Saesneg sy’n angerddol am y Gymraeg. Yn ogystal â’i gwaith, mae hi’n awdur plant, ac yn y sgwrs rydyn ni’n trafod ei llyfr hi, 'Princess Pirate Pants'!  Mae mwy o wybodaeth amdani hi ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

  20. 3

    Helgard Krause, Almaenes a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru | Pennod 14

    Y tro yma rwy'n siarad gyda Helgard Krause. Cafodd Helgard ei magu yng ngorllewin yr Almaen. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Rydyn ni'n trafod ei phlentyndod ger y ffin gyda Ffrainc, ei barn hi am Rwsia ac Wcráin, Ewrop a Brexit, ei chyngor neu 'tips' am ddysgu Cymraeg, ac wrth gwrs, llyfrau!  Mae mwy o wybodaeth, geirfa a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

  21. 2

    Matt Davies, Ffan Chwaraeon o Benybont Ar Ogwr | Pennod 12

    Y mis yma rydyn ni’n cwrdd â Matt Davies – ffan chwaraeon o Benybont Ar Ogwr. Mae Matt yn gweithio i Chwaraeon Cymru, y sefydliad sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Yn ein sgwrs, rydyn ni’n trafod pwysicrwydd chwaraeon, heriau a tips dysgu Cymraeg, a llwyddiant tîm pêl droed Cymru. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

  22. 1

    Grant Peisley, Datblygwr Ynni a Thafarn Cymunedol o Awstralia | Pennod 11

    Y mis yma rydyn ni'n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy'n byw yn ardal Caernarfon, Gwynedd erbyn hyn. Mae Grant Peisley wedi cyfrannu'n fawr at gymunedau Cymreig - nid yn unig trwy ddysgu'r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

  23. 0

    Dr Ben Ó Ceallaigh, Arbenigwr ac Ymgyrchydd Iaith o Iwerddon | Pennod 10

    Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol. Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

  24. -1

    David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9

    David Clubb yw fy ngwestai y tro yma. Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e’n byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen. Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India. Trafodon ni ei waith amgylcheddol a’i ddiddordeb mewn technoleg.  Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

  25. -2

    Liz Day, Podlediwr a Pherfformiwr Syrcas | Pennod 8

    Liz Day yw'r gwestai y tro yma. Mae Liz yn dod o Swydd Amwythig, Lloegr. Symudodd hi i Gaerdydd, ble mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr i Wales Online. Erbyn hyn, mae hi'n gwneud nifer o bethau diddorol - sy'n cynnwys sgiliau syrcas, a gwneud blog a phodlediad ei hun, Liz Learns Welsh. Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter  

  26. -3

    David Thomas, Dysgwr y Flwyddyn 2021 | Pennod 7

    Y gwestai y tro yma ydy David Thomas. Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru gyda'i ŵr. Mae e'n rhedeg y cwmni Jin Talog ac mae e'n awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned. Ewch i fy ngwefan i weld lluniau a geirfa'r pennod yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts  

  27. -4

    Rodolfo Piskorski, Dinesydd Cymraeg o Frasil | Pennod 6

    Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski. Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg! Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi creu gwefan a fideos i helpu dysgwyr eraill - mae mwy o wybodaeth am hyn, a lluniau o Rodolfo, ar y wefan. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadael adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts

  28. -5

    Geordan Burress, Ffan Cerddoriaeth Cymraeg o Cleveland, Ohio | Pennod 5

      Geordan Burress yw ein gwestai ym mhennod 5. Mae Geordan yn byw yn Cleveland, Ohio, UDA, a dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys.   Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a siaradodd hi am ei hymweliad â Chymru. Gallwch chi weld lluniau o daith Geordan i Gymru yma. Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts

  29. -6

    Rosa Hunt, Gweinidog Capel o Donteg a Malta | Pennod 4

    Ein gwestai ni y tro yma ydy’r Parchedig Doctor Rosa Hunt – Gwenidog Capel Salem, Tonteg ger Pontypridd. Mae Rosa yn dod o ynys Malta yn wreiddiol. Fel Cymru, mae Malta yn wlad fach gyda iaith ei hun yn ogystal â Saesneg. Siaradon ni am ei phlentyndod ym Malta, sut mae statws Malteg wedi newid ers ennill annibyniaeth, a’r heriau a phleserau o ddysgu Cymraeg a symud i Gymru. Manylion a geirfa Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts

  30. -7

    Stephen Rule, y 'Doctor Cymraeg' o Sir y Fflint | Pennod 3

    Y tro yma dwi'n siarad gyda Stephen Rule, y dyn sy'n rhedeg y cyfrif Twitter poblogaidd, y Doctor Cymraeg, sy'n rhoi cyngor i ddysgwyr. Yn y pennod yma rydyn ni'n siarad am sut dysgodd e Gymraeg, a sut gallwch chi datblygu hyder i siarad yr iaith yn gyhoeddus. Manylion a geirfa  Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg. A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.Cyflwynydd: Richard Nosworthy

HOSTED BY

Richard Nosworthy

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does Hefyd have?

Hefyd currently has 30 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Hefyd about?

Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg. A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.Cyflwynydd: Richard Nosworthy

How often does Hefyd release new episodes?

Hefyd has 30 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to Hefyd?

You can listen to Hefyd on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Hefyd?

Hefyd is created and hosted by Richard Nosworthy.
URL copied to clipboard!