EPISODE · Oct 15, 2025 · 33 MIN
Jazz Owen: Dysgu ac addysgu yn Sir Benfro | Pennod 27
from Hefyd · host Richard Nosworthy
Y tro yma rwy'n siarad gyda Jazz Owen (née Jazz Langdon). Mae Jazz yn byw yn Sir Benfro. Athrawes ydy hi, mewn ysgol gynradd. Mae Jazz wedi dysgu Cymraeg er mwyn helpu'r plant gyda'r iaith, ac mae hi'n helpu athrawon eraill hefyd. Yn y pennod yma 'dyn ni'n trafod yr iaith Gymraeg yn y sir, profiadau o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgol Saesneg, a sut dysgodd hi'r Gymraeg mewn cwrs dwys. Hefyd mae hi'n rhannu ei phrofiad o ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn ystod y pandemig yn 2020! Recordion ni'r sgwrs yma ym mis Rhagfyr 2024. Dyma'r pennod olaf o'r gyfres - cysylltwch â fi os hoffech chi fod yn westai yn y gyfres nesaf. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch sgôr (rating) ac adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts
NOW PLAYING
Jazz Owen: Dysgu ac addysgu yn Sir Benfro | Pennod 27
No transcript for this episode yet