PODCAST · religion
Podlediad Presbyteraidd/ Presbyterian Podcast
by Gethin Russell-Jones
Yn y rhifyn dwyieithog hwn, cawn glywed gan Rebecca Lalbiaksangi, y wraig gyntaf i gael ei hordeinio o Eglwys Bresbyteraidd India. Ac mae'n digwydd yn y Drenewydd. Clywn hefyd gan Wayne Adams a Hedd Morgan wrth iddynt sôn am ddyfodol deinamig Coleg Trefeca. In this bilingual edition, we hear from Rebecca Lalbiaksangi, the first woman to be ordained from the Presbyterian Church of India. And it's happening in Newtown. We also hear from Wayne Adams and Hedd Morgan as they talk about Coleg Trefeca's dynamic future.
-
25
Pasg. Penrhys. Open Doors
In this special easter edition, we visit Llanfair Uniting Church in the Rhondda, hearing about how they will be celebrating the season. After this, we take a look at religious freedom through the lens of Open Doors' recently published World Watch List.Yn y rhifyn arbennig hwn o'r Pasg, rydym yn ymweld ag Eglwys Unedig Llanfair yn y Rhondda, gan glywed sut y byddant yn dathlu'r tymor. Ar ôl hyn, rydym yn edrych ar ryddid crefyddol drwy lens Rhestr Gwylio'r Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Open Doors
-
24
Gweddi. Prayer
A unique prayer app has just been launched. Gweddi.Prayer will create a digital community of prayer, connecting people across Wales and the world. The app will be updated regularly, focusing on the people and places in need of God’s blessing.Mae ap gweddi unigryw newydd gael ei lansio. Bydd Gweddi.Prayer yn creu cymuned ddigidol o weddi, gan gysylltu pobl ledled Cymru a’r byd. Bydd yr ap yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gan ganolbwyntio ar y bobl a’r lleoedd sydd angen bendith Duw.
-
23
Gwneud neu Ddarfod? / Do or Die?
Gwneud neu Ddarfod? Yn y podlediad newydd hwn, mae’r Parch. Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn myfyrio ar gynhadledd ailstrwythuro’r eglwys a gynhaliwyd yn Wrecsam. Gyda niferoedd yn gostwng yn aruthrol a chynulleidfaoedd yn heneiddio, mae’r Eglwys Bresbyteraidd bellach ar groesffordd. Mae Nan yn siarad yn realistig ac yn obeithiol am y heriau sydd o’u blaenau.Do or Die?In this new podcast, Rev Nan Powell Davies, General Secretary of the Presbyterian Church of Wales, reflects on the church’s restructuring conference held in Wrexham. Facing steep decline and ageing congregations, the PCW is now at a crossroads. Nan speaks with realism and hope about the challenges ahead.
-
22
Nadolig/ Christmas 2025: Robin O'Connor & Lynda Boyce
In this Christmas edition, we’re going to hear about two exciting outreach projects that are part of the Presbyterian Church of Wales. One is based in Newport whilst the other covers the whole of Wales. Both are very different , but they rely heavily on partnerships with other organisations.Yn y rhifyn Nadolig hwn, rydyn ni’n mynd i glywed am ddau brosiect allgymorth cyffrous sy’n rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae un yng Nghasnewydd tra bo’r llall yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae’r ddau yn wahanol iawn, ond maent yn dibynnu’n helaeth ar bartneriaethau gyda mudiadau eraillClywn oddiwrth Robyn O'Connor sy'n gweithio yn Ringland, Casnewydd ag hefyd Linda Boyce o Gobaith Clothing.We hear from Robyn O'Connor who works in RIngland, Newport and also Linda Boyce from Gobaith Clothing.
-
21
Wynford Ellis Owen: Addiction & the Ministry/ Caethiwed a’r Weinidogaeth
In this new episode, I talk to Wynford Ellis Owen, Chief Executive of the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs. We chat about addiction, ministry and the help that's offered by The Living Room and Cynnal. Yn y bennod newydd hon, rwy’n siarad â Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Rydyn ni’n sgwrsio am gaethiwed, y weinidogaeth, a’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Ystafell Fyw a Cynnal.
-
20
Caplan ar gyfer Pobl Hŷn & beth yw ein hymateb i’r Bil Cymorth. i Farw?/ Chaplain for Older People & what are we to make of the Assisted Dying Bill
In this episode, we meet Samantha Hodgins, newly appointed as the first ever Chaplain for Older People within the PCW.We'll also hear from the Rev Huw Powell Davies, church minister and hospital chaplain, about how we navigate our way through the deep waters of the Assisted Dying Bill making its way through Parliament.Yn y bennod hon, rydyn ni’n cwrdd â Samantha Hodgins, sydd newydd gael ei phenodi’n Gaplan cyntaf erioed ar gyfer Pobl Hŷn o fewn yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru.Byddwn ni hefyd yn clywed gan y Parch Huw Powell Davies, gweinidog eglwys a chaplan ysbyty, am sut y gallwn ni lywio ein ffordd drwy ddyfroedd dyfnion y Bil Cymorth i Farw sy’n mynd rhagddo drwy’r Senedd.
-
19
O Gymru i Taiwan/ From Wales to Taiwan
Croeso, mae’r podlediad diweddaraf newydd lanio! Yn yr wythnos hon, rydyn ni’n ymweld â Threfaldwyn, Caerdydd a Taiwan i glywed straeon am genhadaeth, adnewyddiad a dewrder. Clywn gan y Parchg. Rebecca Lalbiaksangi; Thomas Williams o Eglwys y Crwys, a thri arweinydd o Eglwys Bresbyteraidd Taiwan. Roedd pob un ohonyn nhw’n bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol yr haf yma yn Llandudno.Welcome, the latest podcast has landed! In this edition, we’re visiting Montgomery, Cardiff and Taiwan to hear stories of mission, renewal and courage. We’ll hear from the Rev Rebecca Lalbiaksangi; Thomas Williams from Eglwys y Crwys and three leaders from the Presbyterian Church of Taiwan. And all of them were present at the General Assembly in Llandudno earlier in the summer.Photo/ ffoto: (chwith ir dde) Parch Chen Yu-Fen (mission partner with URC in London) ; Llywydd/Moderator PCT 70th General Assembly, Parch/Rev. Pan En-Sheng; a Parch/Rev. Avai (Chen Ching-Fa);
-
18
Llandudno & Port Talbot
Hello and welcome to this edition of the Presbyterian Podcast with me, Gethin Russell-Jones. Welsh: Helo a chroeso i'r bennod hon o’r Podlediad Presbyteraidd gyda fi, Gethin Russell-Jones.English: In this bilingual episode, we’re heading to Llandudno to visit the General Assembly, which took place earlier this month. Welsh: Yn y bennod ddwyieithog hon, ry’n ni’n teithio i Landudno i ymuno â’r Gymanfa Gyffredinol a gynhaliwyd yno yn gynharach yn y mis.English: We’ll also stop in Port Talbot to hear from Margaret Jones, before returning to Llandudno to enjoy a special song. Welsh: Teithiwn hefyd i Bort Talbot i glywed gan Margaret Jones, cyn dychwelyd i Landudno i wrando ar gân arbennig.English: Glynis Owen is the new Moderator of the Presbyterian Church of Wales, taking over from Reverend Aneurin Owen. I had the chance to speak with Glynis during a break at the Assembly, where she shared insights about her life and her hopes for the next two years. Welsh: Glynis Owen yw llywydd newydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gan olynu'r Parchedig Aneurin Owen. Cyfarfûm â Glynis yn ystod un o’r egwyliau, lle bu’n rhannu ei phrofiadau a’i gobeithion ar gyfer y ddwy flynedd i ddod.English: Margaret Jones, who lives in Port Talbot and is a member of the Morgannwg Llundain Presbytery, spoke to us a year ago about her concerns over the planned closure of the steelworks and the damaging impact on the town. Now, twelve months on, she brings us an update. Welsh: Mae Margaret Jones yn byw ym Mhort Talbot ac yn aelod o Henaduriaeth Morgannwg Llundain. Flwyddyn yn ôl, cododd bryderon ynglŷn â’r cynlluniau i gau’r gwaith dur a’r effaith negyddol ar y gymuned. Nawr, ddeuddeg mis yn ddiweddarach, mae hi’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni.English: And finally, we’ll hear a beautiful song of blessing written and performed by Patrick Thomas, a mission worker at the Williams Pantycelyn Memorial Church in Llandovery. He shared this moving piece during the General Assembly in Llandudno. Welsh: Ac yn olaf, cawn glywed cân fendith hyfryd, a ysgrifennwyd ac a ganwyd gan Patrick Thomas, gweithiwr cenhadol yn Eglwys Goffa Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Perfformiodd Patrick y gân yn ystod y Gymanfa Gyffredinol yn Llandudno.
-
17
Wythnos Weddi/ Cymorth Crisnogol yn 80 mlwydd oed
Yn y bennod ddwyieithog hon byddwn yn dathlu wythdeg mlynedd o waith a thystiolaeth Cymorth Crisnogol ac hefyd yn lansio Wythnos o Weddi Genedlaethol Eglwys Bresbyteraidd Cymru .In this episode we’ll celebrate Christian Aid’s 80 years of work and witness and also launch the Presbyterian Church of Wales’ National Week of Prayer.
-
16
Pasg/ Easter: Lleuwen Steffan a Nan Powell Davies
Yn rhifyn y Pasg hwn, cawn glywed gan y gantores gyfansoddwraig Lleuwen Steffan. Mae cyngherddau Emynau Coll y Werin Lleuwen wedi gafael mewn cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. Mae hi ar fin cychwyn ar daith theatr o amgylch y prosiect gyda band llawn a sylwebaeth amlgyfrwng. Mae Lleuwen yn sôn am ei gwaith, ei hysbrydoliaeth a’i hymweliad diweddar â Manipur. Mae'r cyfweliad hwn yn uniaith Gymraeg.I gael blas o’i gwaith, ewch i https://www.youtube.com/watch?v=PFAPrk1FxqMMae'r Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, newydd gwblhau Marathon Ultra. Dyna hanner can milltir! Cymerodd Nan ran yn y ras ‘hardd o greulon’ hon er budd Apêl Manipur https://www.ebcpcw.cymru/cy/manipurappeal/ Yn yr eplilog Pasg dwyieithog hwn, mae Nan yn tynnu ar ei chyflawniad diweddar.In this Easter edition, we'll hear from singer songwriter Lleuwen Steffan. Lleuwen's Emynau Coll y Werin concerts have gripped audiences throughout Wales and beyond. She is about to embark on a theatre tour of the project with a full band and multi media comentary. Lleuwen tells us about her work, her inspiration and her recent visit to Manipur. This interview is in Welsh only. For a flavour of her work, please visit https://www.youtube.com/watch?v=PFAPrk1FxqM The Reverend Nan Powell Davies, General Secretary of the Presbyterian Church of Wales, has just completed an Ultra Marathon. That's fifty miles! Nan took part in this 'beautifully brutal' race in aid of the Manipur Appeal https://www.ebcpcw.cymru/en/manipurappeal/ In this bilingual Easter eplilogue, Nan draws on her recent acheivement.Mae'r Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, newydd gwblhau Marathon Ultra. Dyna hanner can milltir! Cymerodd Nan ran yn y ras ‘hardd o greulon’ hon er budd Apêl Manipur https://www.ebcpcw.cymru/cy/manipurappeal/ Yn yr eplilog Pasg dwyieithog hwn, mae Nan yn tynnu ar ei chyflawniad diweddar.
-
15
Manipur appeal update
This episode focuses on the Manipur appeal (https://www.ebcpcw.cymru/en/manipurappeal/) and features an interview with Sharon Singsit Evans. The Rev Rebecca Lalbiaksangi then introduces us to a beautiful custom called a handful of rice, a practice rooted in the spirituality of Mizoram. Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar apêl Manipur ( https://www.ebcpcw.cymru/cy/manipurappeal/ ) ac yn cynnwys cyfweliad gyda Sharon Singsit Evans. Yna mae’r Parch Rebecca Lalbiaksangi yn ein cyflwyno i arferiad hardd o’r enw llond llaw o reis, arfer sydd wedi’i wreiddio yn ysbrydolrwydd Mizoram.
-
14
Manipur Appeal/ Apel Manipur: Nan Powell Davies a Rebecca Lalbiaksangi
This episode is all about the Manipur appeal, recently launched by the Presbyterian Church of Wales. In 2023, violent unrest broke out in the state of Manipur against the Kuki people. Hundreds of people were killed, along with the destruction of hundreds of homes, churches, businesses, hosptials and schools. Thousands have been displaced in neighbouring countries, including Mizoram. Wales has very close missional ties with this region of north east India and the Revds Nan Powell Davies and Rebecca Lalbiaksangi recently visited a refugee camp in Mizoram. In this podcast, we hear their reflections on their visit and the stories they heard whilst they were there. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag apêl Manipur, a lansiwyd yn ddiweddar gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yn 2023, dechreuodd aflonyddwch treisgar yn nhalaith Manipur yn erbyn y bobl Kuki. Lladdwyd cannoedd o bobl, ynghyd â dinistrio cannoedd o gartrefi, eglwysi, busnesau, ysbytai ac ysgolion. Mae miloedd wedi'u dadleoli mewn gwledydd cyfagos, gan gynnwys Mizoram. Mae gan Gymru gysylltiadau cenhadol agos iawn â’r rhanbarth hwn o ogledd ddwyrain India ac ymwelodd y Parchg Nan Powell Davies a Rebecca Lalbiaksangi â gwersyll ffoaduriaid ym Mizoram yn ddiweddar. Yn y podlediad hwn, rydym yn clywed eu myfyrdodau ar eu hymweliad a'r straeon a glywsant tra oeddent yno.
-
13
Christmas in Blaenau Gwent and Crumlin Road jail/ Nadolig ym Mlaenau Gwent a carchar Crumlin Road
This special episode is about Christmas in two very different places. We’ll hear from Linda Boyce and Owen Griffiths about Gobaith Clothing, a new ministry based in Beaufort, Blaenau gwent. After that we head to Crumlin Road jail in Northern Ireland with Brother David Jardine, a a church of Ireland priest and a brother with the order of Saint Francis. He takes us back to Christmas Day in 1982.Mae'r bennod arbennig hon yn sôn am y Nadolig mewn dau le gwahanol iawn. Cawn glywed gan Linda Boyce ac Owen Griffiths am Gobaith Clothing, gweinidogaeth newydd a leolir yn Beaufort, Blaenau Gwent. Ar ôl hynny awn i garchar Crumlin Road yng Ngogledd Iwerddon gyda'r Brawd David Jardine, offeiriad o eglwys Iwerddon a brawd ag urdd Sant Ffransis. Mae'n mynd â ni yn ôl i Ddydd Nadolig 1982.
-
12
Sul Diogelu/ Safeguarding Sunday 2024
This episode is all about Safeguarding, looking ahead to Safeguarding Sunday on the 17th of November. I’ll be talking to Julie Edwards, Safeguarding and Training Officer for the Interdenominational Safeguarding Panel, and discussing the significance of the day.Mae'r bennod hon yn ymwneud â Diogelu, gan edrych ymlaen at Ddydd Sul Diogelu ar yr ail ar bymtheg of fis Tachwedd. Fyddai’n siarad â Julie Edwards, Swyddog Hyfforddiant a Diogelu y Panel Diogelu Cydenwadol, ac yn trafod arwyddocâd y diwrnod.
-
11
Pererindod a Gweddi/ Pilgrimage and Prayer
This episode is about prayer and pilgrimage. We’ll catch up with the latest PCWprayer initiative, hearing about an online prayer meeting that’s just taken place.After that, we’re going on a pilgrimage to the highest point in the Rhondda.We'll hear from Rev Owen Griffiths, minister for the South East Wales Presbytery and Rev Canon Dyfrig Lloyd, vicar of Eglwys Dewi Sant, Cardiff. Mae'r bennod hon yn ymwneud â gweddi a phererindod. Byddwn yn dal i fyny â'r fenter weddi ddiweddaraf yr EBC, gan glywed am gyfarfod gweddi ar-lein sydd newydd gael ei gynnal.Ar ôl hynny, rydyn ni’n mynd ar bererindod i bwynt uchaf y Rhondda.Clywn oddiwrth Parch Owen Griffiths, Gweinidog South East Wales Presbytery a Parch Ganon, Dyfrig Lloyd, Ficer Eglwys Dewi Sant, Caerdydd.
-
10
A rainy day at the Eisteddfod/ bwrw glaw yn yr Eisteddfod
This special EIsteddfod edition features an interview with the Right Rev Mary Stallard, Bishop of Llandaf. She talks with passion about mission and prayer in modern Wales. We also hear from the Rev Owen Griffiths, minister for the South East Wales presbytery as Park Arts is launched in Trefforest. Mae'r rhifyn arbennig hwn o'r Eisteddfod yn cynnwys cyfweliad gyda'r Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf. Mae'n siarad ag angerdd am genhadaeth a gweddi yn y Gymru fodern. Clywn hefyd gan y Parch Owen Griffiths, gweinidog Henaduriaeth De Ddwyrain Cymru wrth i Park Arts gael ei lansio yn Nhrefforest.
-
9
Y Gymanfa Gyffredinol/ The General Assembly feat Ny Ako
Hello and welcome to another edition of the Presbyterian Podcast. Helo a chroeso i’r podlediad Presbyteraidd. Yn y rhifyn arbennig hwn, ry’n ni’n paratoi am y Gymanfa Gyffredinol yn Aberystwyth wythnos nesa. Cawn glywed oddiwrth y grwp Ny Ako o Fadagascar. Mae nhw'n teithio ledled Cymru ac yn perfformio yn y Gymanfa Gyffredinol. Gyda llaw, yn y cefndir, fedrwch clywed Ny Ako yn canu ei fersiwn nhw o Salm 23 yn Malagasy.In this special edition, we’re preparing for the General Assembly in Aberystwyth next week. We’ll hear from Ny Ako, a group of perfromers from Madagascar. They are touring Wales at the moment and will appear at the assembly next week. By the way, the music you can hear in the backgrouind is the group’s rendition of Psalm 23 in Malagasy.And finally, we hear from the Rev Nan Powell Davies, General Secretary of the Presbyterian Church of Wales, talking about the General Assembly.Ac yn olaf, clywn oddiwrth Parchedig Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nhymru. Diolch am wrando, a gwradnewch am y podlediad nesa yn fuan iawn. Thanks for listening and listen out for the next podcast soon.
-
8
Port Talbot: a steeltown murder
In this bilingual edition, we focus on the worrying situation in Port Talbot. Tata, the owner of the steelworks has announced that nearly 3000 jobs will be lost as they transition to a more environmentally friendly means of production. We’ll hear from Margaret Jones, member of a local church and also the Morgannwg Llundain presbytery. We then hear from husband and wife Andrew and Tina Saunders, who work at Sandfields Presbyterian Church, an estate in the shadows of the steel works.Yn y rhifyn dwyieithog hwn, rydym yn canolbwyntio ar y sefyllfa bryderus ym Mhort Talbot. Mae cwmni Tata, perchnogion y gwaith dur, wedi cyhoeddi y bydd bron i dair mil o swyddi’n cael eu colli wrth iddyn nhw drosglwyddo i ddull cynhyrchu mwy ecogyfeillgar. Cawn glywed gan Margaret Jones, aelod o eglwys leol a hefyd Henaduriaeth Morgannwg Llundain. Clywn wedyn gan ŵr a gwraig Andrew a Tina Saunders, sy’n gweithio yn Eglwys Bresbyteraidd Sandfields, ystâd yng nghysgodion y gwaith dur.
-
7
Prayer: why is it so hard? / Gweddi: pam ei bod mor anodd? Owen Griffiths & Hedd Morgan
In this podcast, Gethin Russell-Jones talks to Revd. Owen Griffiths, Minister for the South East Wales presbytery and member of the Presbyterian Church of Wales (PCW) prayer strategy group. Gethin begins by asking Owen why prayer is so difficult. They then talk about the PCW’s national week of prayer, beginning on Monday 20th May. The podcast closes with prayer led by Hedd Morgan, PCW’s Assistant Director of Ministries. Yn y podlediad hwn, mae Gethin Russell-Jones yn sgwrsio â’r Parchg. Owen Griffiths, Gweinidog Henaduriaeth De Ddwyrain Cymru ac aelod o grŵp strategaeth weddi Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC). Dechreua Gethin drwy ofyn i Owen pam fod gweddi mor anodd. Yna maen nhw’n siarad am wythnos weddi genedlaethol EBC, sy’n dechrau ar ddydd Llun 20 Mai. Daw’r podlediad i ben gyda gweddi dan arweiniad Hedd Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweinidogaethau EBC.
-
6
Gaza: Anna Jane Evans & Mones Farah
Hello and welcome to another edition of the Presbyterian podcast. Over holy week this year, we are releasing two podcasts. This is the second edition, focusing on the situation in Gaza from a Welsh perspective. We hear from two distinctive perspectives. Rev Anna Jane Evans is a Presbyterian Church of Wales minister in Caernarfon. Anna Jane is part of a weekly vigil in Caernarfon, calling for an immediate ceasefire in Gaza. The Rev Mones Farah is an archdeacon within the Church in Wales, serving in St David’s DIocese. Mones describes himself as an Arab Palestinian with Israeli citizenship. His bring a unique dimennsion to this conversation.Helo a chroeso i rifyn arall o'r podlediad Presbyteraidd. Fy enw i yw Gethin Russell-Jones. Dros yr wythnos fawr eleni, rydym yn rhyddhau dau bodlediad. Dyma’r ail rhufin, yn canolbwyntio ar y sefyllfa yn Gaza o safbwynt Cymreig. Clywn o ddau safbwynt gwahanol. Mae’r Parch Anna Jane Evans yn weinidog Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghaernarfon. Mae Anna Jane yn rhan o wylnos wythnosol yng Nghaernarfon, yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza. Mae’r Parch Mones Farah yn archddiacon o fewn yr Eglwys yng Nghymru, yn gwasanaethu yn Esgobaeth Dewi Sant. Disgrifia Mones ei hun fel Palesteiniad Arabaidd gyda dinasyddiaeth Israel. Mae'n dod â dimennsiwn unigryw i'r sgwrs hon.
-
5
Wythnos Sanctaidd 1/ Holy Week 1: Gwrandewch i Gefn Gwlad/ Listen to the countryside
During Holy Week, we are releasing two podcasts. This episode is about the controversy surrounding the Welsh Government's Consultation on Sustainable Farming. It is largely in the Welsh language. Many farmers and rural communities are concerned about its long term economic and social implications. Rev. Aneurin Owen, Moderator of the Presbyterian Church of Wales (PCW), interviews three farmers about their reaction to the proposed scheme. The podcast ends with an epilogue from the Rev. Nan Powell Davies, General Secretary of the PCW, musing on the hazzards of walking and eating raspberries.Yn ystod yr Wythnos Sanctaidd, rydym yn rhyddhau dau bodlediad. Mae'r bennod hon yn ymwneud â'r ddadl ynghylch Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ffermio Cynaliadwy. Mae'n bennaf yn yr iaith Gymraeg. Mae llawer o ffermwyr a chymunedau gwledig yn pryderu am ei oblygiadau economaidd a chymdeithasol hirdymor. Mae'r Parch. Aneurin Owen, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC), yn cyfweld tri ffermwr am eu hymateb i'r cynllun arfaethedig. Daw'r podlediad i ben gydag epilog gan y Parch. Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol EBC, yn myfyrio ar beryglon cerdded a bwyta mafon.
-
4
Injustice and Persecution in the World Church/ Anghyfiawnder ac erledigaeth yn eglwys y byd
In this episode, we focus on the world church, exploring Open Doors' recently published World Watch List of the planet's most oppressve nations. Jim Stewart, Open Doors' lead officer for Wales gives an overview of the report, focusing on the siutation facing Christians in Manipur, a state in north east India. The Presbyterian Church of Wales has deep links with Manipur and Mizoram, hosting a weekly online prayer meeting to remember the crisis engulfing many Christians in Manipur. We hear from a church leader who witnessed the violence that erupted during a peaceful march in May 2023. Sharon, a Manipuri woman now based in the UK, also voices her concern about the ongoing situation. We close with an epliogue from the Rev Aneurin Owen, who has close family connection to this part of India.Yn y bennod hon, rydyn ni'n canolbwyntio ar eglwys y byd, gan archwilio Rhestr Gwylio'r Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Open Doors o wledydd mwyaf gormesol y blaned. Mae Jim Stewart, swyddog arweiniol Cymru, yn rhoi trosolwg o'r adroddiad, gan ganolbwyntio ar y sefyllfa sy'n wynebu Cristnogion ym Manipur, talaith yng ngogledd ddwyrain India. Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru gysylltiadau dwfn â Manipur a Mizoram, gan gynnal cyfarfod gweddi ar-lein wythnosol i gofio’r argyfwng sy’n amlyncu llawer o Gristnogion ym Manipur. Clywn gan arweinydd eglwys a welodd y trais a ffrwydrodd yn ystod gorymdaith heddychlon ym mis Mai 2023. Mae Sharon, menyw o Manipuri sydd bellach wedi’i lleoli yn y DU, hefyd yn lleisio ei phryder am y sefyllfa barhaus. Clown gydag epliogue gan y Parch Aneurin Owen, sydd â chysylltiad teuluol agos â’r rhan hon o India.
-
3
Christmas in Bethesda/ Nadolig ym Methesda
Yn y rhifyn Nadoligaidd hwn, clywn oddiwrth ddwy weinidog ym Methesda, Gogledd Cymru. Mae Sara Roberts a Nerys Griffiths yn sôn am eu gwaith a'u paratoadau ar gyfer y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Mae’r Parch Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cloi gyda neges dymhorol o obaith.In this festive edition, we hear from two ministers in Bethesda, North Wales. Sara Roberts and Nerys Griffiths talk about their work and preparations for CHristmas and the new year. Rev Nan Powell Davies, General Secretary of the Presbyterian Church of Wales closes with a seasonal message of hope.
-
2
Gaza/ Cymorth Cristnogol/ Christian Aid/ Manipur/ Aneurin Owen/Nan Powell Davies
Yn y rhifyn dwyieithog hwn, byddwn yn dal i fyny ag apêl ddiweddaraf Cymorth Cristnogol am y sefyllfa arswydus sy’n datblygu ym Mhalestina a byddwn hefyd yn darganfod mwy am gyflwr Cristnogion yn nhalaith Manipur, India. Bydd y Parch Nan Powell Davies yn cloi pethau gyda myfyrdod ar heddwch.In this bilingual edition, we’ll be catch up with Christian Aid’s latest appeal for the terrifying situation developing in Palestine and we’ll also find out more about the plight of Christians in Manipur state, India. Rev Nan Powell Davies will wrap things with a reflection on peace.
-
1
Rebecca Lalbiaksangi, Hedd Morgan a Wayne Adams
Yn y rhifyn dwyieithog hwn, cawn glywed gan Rebecca Lalbiaksangi, y wraig gyntaf i gael ei hordeinio o Eglwys Bresbyteraidd India. Ac mae'n digwydd yn y Drenewydd. Clywn hefyd gan Wayne Adams a Hedd Morgan wrth iddynt sôn am ddyfodol deinamig Coleg Trefeca.In this bilingual edition, we hear from Rebecca Lalbiaksangi, the first woman to be ordained from the Presbyterian Church of India. And it's happening in Newtown. We also hear from Wayne Adams and Hedd Morgan as they talk about Coleg Trefeca's dynamic future.
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Yn y rhifyn dwyieithog hwn, cawn glywed gan Rebecca Lalbiaksangi, y wraig gyntaf i gael ei hordeinio o Eglwys Bresbyteraidd India. Ac mae'n digwydd yn y Drenewydd. Clywn hefyd gan Wayne Adams a Hedd Morgan wrth iddynt sôn am ddyfodol deinamig Coleg Trefeca. In this bilingual edition, we hear from Rebecca Lalbiaksangi, the first woman to be ordained from the Presbyterian Church of India. And it's happening in Newtown. We also hear from Wayne Adams and Hedd Morgan as they talk about Coleg Trefeca's dynamic future.
HOSTED BY
Gethin Russell-Jones
CATEGORIES
Loading similar podcasts...