Skip to content
Alcohol episode artwork

EPISODE · Oct 10, 2023 · 44 MIN

Alcohol

from Sgwrs? · host myf.cymru

“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?” Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydig o hwyl yw e wedi’r cyfan - ie? Yn y bennod hon mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafis yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs i sgwrsio am eu perthynas cymhleth nhw gydag alcohol. Mae’n sgwrs onest gan adlewyrchu ar gymdeithasu tra yn y brifysgol a’u perthynas efo alcohol heddiw - gwneud pethau dwl dan ddylanwad, am agweddau cymdeithas, am gydnabod fod problem. Am ddweud ‘Na’, ac am fod yn hapusach person o beidio yfed. Cyflwyniadau (2:00) Agweddau cymdeithas tuag at alcohol (8:30) Stori Heledd a’i pherthynas gydag yfed alcohol (11:55) Sara yn siarad am ei gwaith hi fel cwnselydd gyda myfyrwyr a phroblemau ymwneud ag alcohol (14:40) Alcohol yn gyffur a stigma’r label ‘alcoholig’ (19:22) Heledd yn siarad am benderfynu rhoi stop ar yfed a Ffion wedyn yn siarad am wneud cyfnodau sych (28:01) Ffion yn annog pawb i fod yn ymwybodol o’u patrymau yfed (34:27) Heledd yn trafod defnyddio alcohol fel masg a Ffion wedyn yn siarad am licio hi ei hun heb alcohol (37:49)

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Oct 10, 2023

Embed this episode

Ready to play

Alcohol

0:00 44:46

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Sgwrs??

This episode is 44 minutes long.

When was this Sgwrs? episode published?

This episode was published on October 10, 2023.

Can I download this Sgwrs? episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!