PODCAST · health
Sgwrs?
by myf.cymru
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl. Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Episodes
-
Syndrom y Ffugiwr (Imposter Syndrome)
Mae llawer ohonom yn adnabod y teimlad – y pryder ein bod ni ddim yn ddigon da, y dychymyg ein bod ar fin cael ein darganfod fel ‘ffugiwr’. Ond beth yn union yw syndrom y ffugiwr (imposter syndrome), a pham mae’n effeithio cymaint ar ein hyder a’n hunan-barch? Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Lois,...
-
Meddyliau Ymwthiol
Meddyliwch am y foment honno pan mae meddwl annisgwyl yn taro eich meddwl - rhywbeth rhyfedd, brawychus neu hyd yn oed anghyfforddus. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol o bryd i’w gilydd, ond beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n parhau i ddychwelyd ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd? Yn y...
-
Hunan Ofal a ‘Burnout’
Mae bywyd prifysgol a gwaith yn gallu bod yn heriol, ac mae’n hawdd anwybyddu ein lles personol wrth i bwysau gynyddu. Ond beth yn union yw burnout, sut gallwn ni ei adnabod, a pham mae hunanofal mor bwysig? Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Hedd, myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, y crewr cynnwys Llio...
-
Delio Gyda Newid
Gall newid fod yn heriol ac yn llawn ansicrwydd, ond gall hefyd ddod â chyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod sut i ymdopi â newid mewn ffyrdd iach ac adeiladol, gan gynnwys symud i'r brifysgol, addasu i sefyllfaoedd annisgwyl, a darganfod cryfder...
-
Procrastinadu
Ydyn ni i gyd yn euog o brocrastinadu? Mae’n hawdd dweud “Gwna i o’n nes ymlaen,” ond cyn i chi sylweddoli, mae oriau wedi mynd heibio ac mae'r gwaith heb ei wneud. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod pam rydym ni’n gohirio tasgau, yr effaith mae hyn yn ei gael ar ein hiechyd meddwl, a sut…
more -
Perthnasau
Y gwir yw bod perthnasau da - gyda theulu, ffrindiau, cariadon, ac eraill - yn gallu gwneud ni’n hapus…ond yn yr un modd, pan mae pethau’n mynd o le mewn perthynas, mae’n gallu cael effaith negyddol iawn ar ein hapusrwydd a’n hiechyd meddwl. Mae cyfnod prifysgol yn gyfnod hynod yn ein bywydau, yn...
-
Dynion ac Iechyd Meddwl
Yn y bennod hon, mae’r ffocws ar ddynion ifanc a’u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae cael dynion i siarad a chydnabod problemau yn parhau i fod yn her - er bod arwyddion bod hyn yn newid, fel y clywn ni. Yn siarad am y pwnc gyda Trystan mae’r myfyriwr Osian Iorwerth o Ynys Môn, sy’n astudio ym...
-
Alcohol
“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?” Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth...
-
Hunan-Werth
Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra...
-
Galar
Mae cylch bywyd yn un sy’n cynnwys marwolaeth ac ar ryw bwynt, mae pob un ohonom yn gorfod wynebu galar a cholled. Mae’n medru bod yn anrhagweladwy, yn annisgwyl, yn anghyfleus, yn unig, yn gymhleth, yn bersonol, yn dywyll, yn boenus. Yn y bennod hon, trafodir colled a’r effaith mae’r broses o...
-
Arian a Chostau Byw
Mae arian yn rhywbeth sydd wedi peri gofid i’r mwyafrif ohonon ni ar ryw bwynt yn ein bywydau. Efallai ein bod ni wedi gorwario ar gerdyn credyd neu ar noson allan, yn poeni am y gost o fod yn fyfyriwr, yn gofidio am dalu rhent, neu’n becso am faint i ni’n ennill mewn swydd, ac wrth gwrs, y twf...
-
Gwneud y Pethau Bychain
Mae hunanofal yn rhywbeth sy’n hanfodol bwysig i ni gyd. A thra bod iechyd meddwl yn gallu bod yn beth cymhleth a dyrys heb unrhyw atebion hawdd, mae yna bethau gallwn ni wneud i helpu cadw’n meddyliau yn iach, ac mae gwneud y pethau bychain hynny yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Yn y bennod hon...
-
Anhwylder Personoliaeth ac Anhwylder Deubegwn
Mae salwch meddwl yn rhywbeth nad yw pobol yn aml yn gwybod sut i siarad amdano. Mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a stigma hefyd yn gallu bodoli ynghylch â chyflyrau sy’n ymwneud â’r meddwl. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Tegwen Parry a’r actores a dramodydd Ceri Ashe yn ymuno gyda Trystan…
more -
Cael Cymorth
Mae gofyn am help yn rhywbeth mae llawer ohonom yn gweld yn anodd i'w wneud, ym mhob agwedd o fywyd, ond yn arbennig efallai gyda’n hiechyd meddwl. Y cwnselydd Myfanwy Williams, y myfyrwyr Daisy a Hywel - sydd hefyd yn rhan o’r tîm sy’n rhedeg gwefan meddwl.org - sy’n trafod y pwysigrwydd o gael...
-
Niwroamrywiaeth
Mae niwroamryiaeth yn derm i ni’n clywed yn fwyfwy amal, ac mae’n un sy’n cwmpasu nifer o gyflyrau gwahanol - gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, awtistiaeth, dyslecsia a dyspracsia, ymysg eraill. Yn y bennod hon mae’r cwnselydd Endaf Evans, y fyfyrwraig Katie...
-
Dechrau yn y Brifysgol
Cyffro? Pryder? Dim ond dau air i ddisgrifio rhai o’r teimladau mae rhywun yn eu cael cyn dechrau yn y brifysgol am y tro cynta’. Yn y bennod yma bydd y myfyriwr Lleu Price a’r awdures Megan Angharad Hunter sydd hefyd newydd orffen yn y brifysgol yn ymuno a Tara Bethan i sgwrsio efo Trystan ac...
-
Iselder a Gorbryder
Yn ymuno a Trystan ac Endaf y tro hwn mae Non Parry o’r grŵp Eden a Phrifardd Eisteddfod T yr Urdd 2021, Kayley Sydenham. Mae’r ddwy wedi siarad yn agored iawn am eu profiadau o ddelio a phroblemau iechyd meddwl ac am y gwaith mewn nhw’n gwneud yn awr wrth ofalu am eu hunain a helpu eraill.…
more -
Y Gymuned LHDT
Y Gymuned LHDT sef yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yw’r pwnc y tro hwn. Mae Alys Hall o brifysgol Bangor, James Hope o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Ellis Jones - un o ffigyrau mwyaf adloniannol instagram a Tiktok yn ymuno a Trystan ac Endaf i rannu eu teimladau wrth dyfu…
more -
Y Cyfnod Clo
Y cyfnod clo neu lockdown yw’r pwnc y tro hwn. Mae wedi effeithio ac yn dal i effeithio pob un ohonom o addasu i astudio yn rhithiol ac ar-lein i orfod aros adre am wythnosau a cholli allan ar yr elfennau cymdeithasol o fod yn fyfyriwr. Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf y tro yma mae’r myfyrwyr…
more -
Delwedd y Corff
Delwedd y corff a hunan ddelwedd yw’r pwnc y tro hwn ac mae dylanwad enwogion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei drafod mewn dyfnder. Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf mae’r dylanwadwyr Jess Davies a Mari Gwenllian ynghyd a Mari Jones sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mari Gwenllian...
-
Awydd Sgwrs?
Podlediad yng nghwmni Trystan Ellis-Morris sy’n trafod iechyd meddwl a lles myfyrwyr o bob oed. Bydd Trystan yn cael cwmni Endaf Evans sy'n gwnselydd ym Mhrifysgol Bangor ynghyd a myfyrwyr a lleisiau cyfarwydd i drin a thrafod materion sydd o bwys iddyn nhw. Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru...
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl.
Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru
Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
HOSTED BY
myf.cymru
CATEGORIES
Loading similar podcasts...