Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26 episode artwork

EPISODE · Sep 15, 2025 · 39 MIN

Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

from Hefyd · host Richard Nosworthy

Y mis yma fy ngwestai i ydy Daniel Minty, sy'n dod o Abertyleri yng nghymoedd y de-ddwyrain. Trwy'r sîn gerddorol a darlledu wnaeth e ddechrau dysgu'r iaith. Sefydlodd e Minty's Gig Guide, mae e wedi bod yn rhan o Wyl Sŵn yng Nghaerdydd ac wedi gweithio gyda BBC Cymru a Gorwelion/Horizons. Pan recordion ni ein sgwrs ym mis Hydref 2024, roedd Daniel yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mewn swydd gyda Menter Casnewydd. Ers i ni recordio mae e wedi newid swydd, a nawr (Medi 2025) mae e'n gweithio gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. *** Diolch i'r Sefydliad Dysgu a Gwaith am awgrymu cyfweld â Daniel. Ennillodd e wobr 'Dechrau Arni: Dysgwr Cymraeg' yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Rwy'n cyhoeddi'r podlediad yma yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (15-21 Medi 2025). Mae’r ymgyrch yn cael ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Os hoffech chi ddysgu sgil newydd ym mis Medi mae eu gwefan nhw yn cynnig adnoddau am ddim ar addysg yn cynnwys cyrsiau, sesiynau tiwtorial a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. *** Cyflwynydd: Richard Nosworthy Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: [email protected] neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.  Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Sep 15, 2025

Embed this episode

NOW PLAYING

Daniel Minty: dysgu Cymraeg trwy'r sîn roc Gymraeg | Pennod 26

0:00 39:31

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Hefyd?

This episode is 39 minutes long.

When was this Hefyd episode published?

This episode was published on September 15, 2025.

Can I download this Hefyd episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!