PODCAST · education
GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws
by Dr Hanna Hopwood
"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'
-
30
30 Pennod. 90 o flynyddoedd. A throbwynt | 30
Pennod 30. Ar Orffennaf 30. Ar y diwrnod mae fy mamgu yn troi'n 90. A blwyddyn o bodlediad: Haf 2024 - Haf 2025. Doedd dim cynllun lawnsio, dim pwysau, dim ond ymddiriedaeth y byddai'r podlediad yn darganfod y bobl oedd ei angen. Ac mae wedi. Yn y bennod hon, dwi'n myfyrio dros beth mae'n ei olygu i greu rhywbeth oedd â'r bwriad i fod yma i aros - mewn byd sy'n obsesiynol am amserlenni a phethau cyflym, Dwi'n sôn am pam dwi heb fod yn hysbysebu'r podlediad, a pham fod y podlediad yn mynd yn dawel am nawr. Beth sy'n newid... a beth sy ddim am newid! Diolch o galon i Marc Griffiths o Stiwdiobox am bob cymwynas wrth roi'r bennod hon allan i'r byd bob pythefnos dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i Ieuan Wyn am gerddoriaeth ffab pod GBYH. Os wyt ti'n newydd yma - croeso. Cei glywed yn y bennod hon ambell awgrym ar ble i ddechrau yn llyfrgell podlediad GBYH. Ac os wyt ti wedi bod yn gwrando ar y dechrau - diolch. Mae'r bennod hon i chi gyd.
-
29
Y bennod olaf ond un | 29
Y bennod olaf ond un (am y tro!) - nid hwyl fawr sydd yma - ond dechrau newydd. Cyfle i anrhydeddu beth mae'r gofod hwn wedi bod a chyflwyniad ysgafn i'r hyn sy'n dod. Mae'r rhythm ar fin newid - nid achos bod rhywbeth yn dod i ben, ond achos bod rhywbeth arbennig yn barod i ddechrau. Os ydy HARBWR - Ehangu'n Esmwyth yn teimlo fel dy rythm nesaf di, mae croeso i ti ddysgu mwy yma
-
28
O na fyddai'n haf o hyd? | 28
Os yw'r haf yn gyfnod sy'n teimlo fel ei fod yn llithro rhwng dy ddwylo wrth i ti gadw'r heddwch, cynnal y cynlluniau, a gosod dy anghenion di i'r naill ochr - dyma'r bennod i dy helpu i wasgu pause. Byddi di'n clywed am y posibilrwydd o gael haf sy'n teimlo'n wahanol. Nid un sy'n uwch, nid un sy'n brysurach ond un sy'n teimlo mwy fel dy haf di. Ac mae gwahoddiad cynnes i ti enwi yr hyn rwyt ti eisiau ei deimlo erbyn mis Medi - cyn iddo basio heibio unwaith eto. Dwyt ti ddim angen rhagor o amser. Rwyt ti angen caniatâd i archwilio beth wyt ti ei eisiau. Ac efallai, y tymor hwn, rwyt ti'n gwneud lle i'r cwestiwn: Pam ddim ti? A pham ddim nawr? I helpu siapio beth sydd nesaf i ti - dyma'r ddolen ar gyfer yr holiadur byr dwi wedi'i greu. Bydd yn cymryd llai na 3 munud i'w lenwi. Gelli di gael mynediad ato drwy glicio yma. Beth am wneud yr haf hwn yr haf ble rwyt ti - o'r diwedd - yn cadw'r addewid i dy hunan mai y tro hwn, bydd pethau'n wahanol.
-
27
'Ydw i'n gwneud synnwyr'? | 27
Pa mor aml ydych chi'n dal eich hunan yn dweud y geiriau hyn? Sut maen nhw'n gwneud i chi deimlo? Gwrandewch ar y bennod i ddysgu sut gallwn gadw at deimlad y frawddeg hon, heb dynnu oddi ar ein hunan hyder. A gyda llaw - mi rydych chi - wrth gwrs - yn gwneud synnwyr - ddoe, heddiw a fory. Peidiwch â gadael i hunan-amheuaeth ennill y dydd. Gwrandewch i newid y llais mewnol hwn.
-
26
Ein Doethineb Mewnol | 26
Mewn byd ble mae cymaint yn teimlo eu bod ar ras - sut gallwn ni diwno fewn i'n doethineb mewnol i'n helpu darganfod y llwybr sy'n iawn i ni?Y penodau eraill y cyfeiriir atynt yn y bennod hon ydy Pennod 5: Tymor y Bwa a'r Saeth a Phennod 15: Angen Vs Eisiau. Mwynhewch!*Cofiwch fod unrhyw wybodaeth sy'n cael ei rannu ar y pod ddim yn gyfystyr â chyngor meddygol, felly os ydych chi'n poeni am rywbeth, ewch i weld eich darprwr meddygol proffesiynnol. Diolch!*
-
25
Problem Prysurseb | 25
Ydy prysurdeb yn rheoli eich bywyd? A beth yw’r buddion o adnabod a gweithredu o fewn eich llif egnïol? Dyma ddau o’r pethau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon!
-
24
Pan mae cymharu yn gwasgu 'pause' ar ein datblygiad - a sut i wasgu 'play' eto | 24
Cymharu - p'un ai bod e'n cymharu yr hunan ag eraill neu'n gymharu ni ein hunan gyda fersiwyn ohonom yn y gorffennol - mae e'n gwasgu 'pause' ar datblygiad. Yn y bennod hon, rydyn ni'n archwilio sut mae cymharu yn cymylu'r ffordd ymlaen i ni ac yn oedi penderfyniadau cynhyrchiol, yn ogystgal a beth all gael ei wneud er mwyn shiffto pethau i'r cyfeiriad cywir gyda hyder a rhwyddineb. *Mae cofrestru ar gyfer Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws nawr AR AGOR. Llewnodd llefydd y cwrs diwethaf cyn y dyddiad cau am gofrestru, felly, os oes diddordeb gyda ti, derbynia dy le nawr. Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
23
*Cyfres Fonws: Y Ffordd Ymlaen* | 23
Yn y bennod hon, mae Hanna'n esbonio sut mae dysgu cofleidio chwilfrydedd a pheidio ag aros am yr 'amser perffaith' wedi Gwneud Bywyd yn Haws iddi hi. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am 12 modiwl y cwrs ynghyd â'r modiwlau bonws! Gwrandewch i ddysgu mwy!*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
22
*Blas ar fodiwl 'Hunan Hyder' + 'H' Fframwaith GBYH * | 22
Beth mae cwrs GBYH yn ein ddysgu i ni am hunan hyder? Ym mhennod 5 y gyfres fonws, cawn gyfle i ddysgu ychydig am y modiwl hwn yn ogystal â dod i adnabod yr 'H' ar y fframwaith sy'n sefyll am 'Hawlio'. Mae hwn yn gam pwysig a chyffrous ar y fframwaith sy'n ein helpu i wreiddio'r newid! Ydych chi'n barod i ddysgu am hawlio eich hunaniaeth newydd?*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
21
*Blas ar Fodel y 3 System Emosiwn + 'Y' Fframwaith GBYH* | 21
Mae pennod 4 y gyfres fonws yn rhoi cipolwg ar fodel y tri system emosiwn sy'n cael ei gyflwyno ar y cwrs. Mae'r bennod hefyd yn ein gwahodd i ystyried beth mae gwir 'ymrwymo' yn ei olygu a sut mae'r cwrs yn ein helpu i gadw at ein ymrwymiadau mewn ffordd gynaladwy.*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
20
*Blas ar y modiwl 'Plesio Pobl' + 'B' Fframwaith GBYH* | 20
Ym mhennod 3 o'r gyfres fonws, cawn flas ar y modiwl sy'n cyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â 'plesio pobl'. Rydym hefyd yn cael ein cyflwyno i'r hyn sydd y tu ôl i'r 'B' ar y fframwaith. Sut mae'r cam hwn yn gwneud bywyd yn haws? Gwrandewch i ddarganfod mwy!*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
19
*Cyflwyno Fframwaith GBYH: Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws* | 19
Yn ail bennod y gyfres fonws, mae fframwaith unigryw Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws yn cael ei gyflwyno. Heddiw, y cam cyntaf - y 'G' - sydd o dan sylw. Gwrandewch i ddysgu am sut mae'r cwrs hwn yn cyflwyno ffordd wahanol o gyrraedd ein nodau a chynnal ein llwyddiant. *Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
18
*Cyfres Fonws: Balans Bywyd* | 18
Croeso i'r gyfres fonws o bodlediad Gwneud Bywyd yn Haws! Cyfres o benodau byrion bob dydd am 6 diwrnod wrth edrych ymlaen at Gwrs Gwneud Bywyd yn Haws: Gwanwyn 2025. Heddiw, rydym yn ail-edrych ar y syniad o 'falans bywyd' a'r teimladau sydd y tu ôl iddo. Sut mae diffinio'r teimlad hwn yn wahanol yn gallu ein helpu? Gwrandewch i ddysgu mwy!*Mae cofrestru am y cwrs yn agor 22/04/25 - niferoedd cyfyngedig - Modiwl 1 yn dechrau 29/04/25*
-
17
Ail-fframio ein meddyliau | 17
Ydych chi'n dal eich hun yn siarad yn negyddol â chi eich hunan? Neu a ydy hynny'n digwydd mor gyflym fel nad ydych hyd yn oed yn sylwi, efallai? Fe allai fod yn ddefnyddiol ystyried beth mae ail-fframio ein meddyliau yn ei olygu a sut mae hynny'n gallu Gwneud Bywyd yn Haws. Gwrandewch i ddarganfod mwy!
-
16
Buddsoddi Amser | 16
Treulio amser? Gwario amser? Buddsoddi amser? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y disgrifiadau hyn? A sut mae ail-ystyried ein perthynas ag amser yn gallu GBYH? Gwrandewch i ddarganfod mwy!
-
15
Angen vs Eisiau | 15
Pa mor aml dych chi'n dal eich hun yn dweud 'dwi jyst eisiau...' neu 'beth dwi rili eisiau ydy...'. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried beth ydy'r gwahaniaeth rhwng 'eisiau' ac 'angen'? A beth yw'r negeseuon sy'n dod atoch chi wrth newid y gair o 'eisiau' i 'angen'? Gwrandewch i ddarganfod sut mae gwneud y newid hwn yn gallu ein helpu i ddarganfod y pethau a all Wneud Bywyd yn Haws.
-
14
Un peth sy'n gallu GBYH heddiw! | 14
Cyfle i ddysgu am rywbeth ymarferol heddiw sy'n gallu GBYH. Triwch hwn os ydych chi'n teimlo ychydig bach ar goll yn eich meddyliau er mwyn ail-gysylltu a gwrando ar y doethineb sydd y tu mewn. HEFYD - blas bach ar newyddion gen i fydd i'w rannu'n llawn yn y bennod nesaf!
-
13
Bod yn agored i dderbyn | 13
Beth mae'n ei olygu i fod yn agored i dderbyn rhywbeth? Yn y bennod hon, cawn gynghorion ar sut mae'r weithred honno yn gallu ein helpu. Trafodir hefyd beth yw ystyr 'glimmers' a sut maen nhw'n mynd law yn llaw â'r syniad o 'dderbyn'. Ydy'r ddau beth hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!
-
12
Byw Bywyd Bwriadol | 12
Beth mae 'byw bywyd bwriadol' yn ei olygu? A sut y gallwn ddechrau gwneud hynny?
-
11
Cynllunio ein un bywyd gwyllt a gwerthfawr... | 11
Ym mhennod gyntaf 2025, cyfle i ystyried beth sy'n gallu ein helpu ar ddechrau cyfnod newydd? Beth yw rhai o'r pethau y gallwn eu hystyried? Sut gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd camau tuag at ein gobeithion mewn modd cynaladwy? Yn ystod y bennod hon, mae Hanna hefyd yn trafod y dyfyniad enwog o gerdd Mary Oliver sy'n aml yn cael ei gam-ddehongli: 'Tell me, what is it you plan to do with your one wild and precious life?'. Sut gall ystyried ystyr wreiddiol y dyfyniad ein helpu yn ystod y tymor hwn? Gwrandewch i ddarganfod mwy!
-
10
Teimladau’r Tymor: Crynhoi Cyfres Un | 10
Cyfle i grisialu rhai o’r teimladau sy’n gallu codi ar ddiwedd blwyddyn, yng nghanol tymor hynod o lawn. Ond - os ydych chi’n gwrando ar y bennod ar adeg wahanol o’r flwyddyn - na phoener! Mae digon o bethau yma i fyfyrio drostynt wrth i Hanna ein tywys drwy rai o brif bwyntiau cyfres gyntaf podlediad GBYH. Mwynhewch!
-
9
Gwneud lle am emosiynau | 9
Mewn cyfnod sy'n gallu teimlo'n orlawn a ble mae amryw o emosiynau yn dod i'r wyneb, dyma gyfle i ddechrau dysgu sut y gallwn greu lle ar eu cyfer nhw a beth yw'r buddion o wneud hynny. Cawn gyfle hefyd i ddysgu ychydig bach mwy am y critic mewnol. Croeso i GBYH!
-
8
'Gad iddo fynd' versus 'Gad iddo fod' | 8
Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y gwahaniaeth rhwng 'Gad iddo fynd' a 'Gad iddo fod' yng ngoleuni cân enwog y Beatles 'Let it be'. Sut mae ail-fframio dywediad rydym yn ei glywed yn gyson er mwyn Gwneud Bywyd Yn Haws?
-
7
Beth yw Cwrs GBYH? | 7
Cwrs GBYH - Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws. 12 modiwl sydd â'r bwriad o wneud yr union beth hynny. Yn y bennod hon, ceir cyfle i gael blas ar gynnwys y cwrs - mae cofrestru'n cau 10/11/24! Gwrandewch tan y diwedd am wahoddiad i ddysgu mwy cyn ymrwymo.
-
6
Ymrwymo i'ch dewisiadau | 6
Yn y bennod hon, cyfle am ychydig bach o wybodaeth tameidiol - 'bite-size' - ar 'ddechrau cyn eich bod yn barod' (start before you're ready) ac am bwysigrwydd anrhydeddu ymrwymiadau 'dych chi'n gwneud i chi eich hun.
-
5
Tymor y Bwa a'r Saeth: Pennod *bonws* | 5
Sut mae'r cyfnodau o gymryd 'cam nôl', o ddweud 'na', o newid cyfeiriad neu o gymryd saib yn gallu cyfrannu at ein datblygiad? A sut gallwn ddefnyddio'r cyfnod i'n helpu ni baratoi at bennod newydd? Yn y bennod *bonws* hon, mae Hanna yn trafod y syniad o dymor y 'bwa a'r saeth' a sut mae ystyried y tymor fel hyn yn gallu helpu.
-
4
Beth yw 'self-compassion'? | 4
Beth yn union yw ystyr 'compassion'? Beth yw ystyr 'self-compassion'? Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y syniad o 'hyfforddiant cryfder mewnol' (inner strength training) ac yn edrych ar bwysigrwydd y derbyn a'r gweithredu. Sut mae'r elfennau hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!
-
3
Gobaith, Gweledigaeth a Gôl | 3
Yn y bennod hon mae Hanna'n rhannu rhai strategaethau y gellid eu trio wrth ddechrau dewis llwybrau newydd. Trafodir hefyd y gwahaniaeth rhwng cael gweledigaeth a chael gôl, a rôl 'gobaith' ar hyd y daith.
-
2
Cylchoedd Cysur: Newid a Datblygu | 2
Yn y bennod hon, mae Hanna'n rhannu ambell stori sy'n ein helpu i feddwl am newid, ymarfer meddylfryd hyblyg a bwydo'r lleisiau a'r systemau fydd yn ein gwasanaethu ni orau.
-
1
Croeso i Gwneud Bywyd yn Haws! | 1
Yn y bennod hon byddwn ni'n dysgu ychydig am sut daeth Hanna i faes coaching
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'
HOSTED BY
Dr Hanna Hopwood
CATEGORIES
Loading similar podcasts...