PODCAST · education
Yr Hen Iaith
by Mimosa Cymru
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Episodes
-
Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad...
-
Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895. Ystyriwn feirniadaeth afieithus Elphin wrth iddo fflangellu’r ‘Bardd Newydd’ a nodi bod ganddo bwyntiau difrifol iawn er gwaethaf ei ormodiaeth ddychanol.…
more -
Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer...
-
Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r...
-
Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)
Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a…
more -
Pennod 92 - Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia
A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd y ‘diaspora’ Cymraeg wrth i’r Wladfa – neu’r ‘Wladychfa’ – ym Mhatagonia gael ei chreu. Ond dechreuwn trwy bwysleisio’r cysylltiad rhwng y...
-
Pennod 91 - Cranogwen
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd…
more -
Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert
Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos...
-
Pennod 89 - Gwilym Hiraethog
Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg...
-
Pennod 88 - ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog
Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r...
-
Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod
Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol...
-
Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!)
(neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r...
-
Pwnnod 85 - Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America
Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn…
more -
Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun
Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn...
-
Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf
Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai...
-
Pennod 82 - Eben Fardd
Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r...
-
Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’
A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg...
-
Pennod 80 - Ann Griffiths (1776-1805)
Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol…
more -
Pennod 79 - Bardd Rhyddid ac Arch-ffugiwr: Iolo Morganwg
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gymeriadau mwyaf enigmatig y traddodiad llenyddol Cymraeg (ac efallai un o gymeriadau mwyaf enigmatig hanes Cymru yn gyffredinol), sef Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826). Ystyriwn ei radicaliaeth wleidyddol gan ei chysylltu â rhai o’i gerddi gwreiddiol....
-
Pennod 78 - Jac Glan-y-Gors
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod John Jones (1766-1821), cymeriad amryddawn a adwaenir yn well heddiw fel Jac Glan-y-Gors. Yn wreiddiol o Gerrigydrudion, sir Ddinbych, treuliodd Jac y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Aeth yn rheolwr ac efallai’n berchennog ar sawl tafarn yn y ddinas ac roedd…
more -
Pennod 77 - Marged Dafydd (c.1700-c.1785)
Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd…
more -
Pennod 76 - Angharad James
Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749),...
-
Pennod 75 - ‘Bro coedydd, gelltydd gwylltion’: Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg America
Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni.…
more -
Pennod 74 - Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen
Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i ni drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn. Awgrymwn fod delfrydau llenyddol cylch y Morrisiaid i’w gweld ar eu mwyaf eglur ym marddoniaeth ‘Goronwy Ddu’, gan fod ei feistrolaeth ar y mesurau caeth wedi...
-
Pennod 73 - Morrisiaid Môn
Ac yntau’n hogyn o sir Fôn, mae Richard Wyn Jones yn ebychu ar ddechrau’r bennod hon na chlywodd ‘un sill’ am y brodyr llengar hyn o’r Ynys pan oedd yn yr ysgol. Dyma gyfle felly i unioni’r cam wrth i ni drafod y pedwar brawd o Bentrerianell, Llanfihangel Tre’r Beirdd. Yn ogystal â Lewis…
more -
Pennod 72 - Y Ffŵl a’r Pregethwr: Yr Anterliwt (rhan 4)
Yn bell o fod yn unffurf, roedd llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn faes ymrafael. Rydym ni’n archwilio’r canfyddiad hwnnw yn y bennod hon wrth gloi ein trafodaeth estynedig ar yr anterliwt a’i chyd-destun(au). A ninnau wedi ystyried ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar y diwylliant...
-
Pennod 71 - Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3)
Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn...
-
Pennod 70 - ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2)
Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth. Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu...
-
Pennod 69 - Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda...
-
Pennod 68 - Baledi’r Ddeunawfed Ganrif
Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r…
more -
Pennod 67 - Ochr Arall y Geiniog
Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio...
-
Pennod 66 - Bardd Diofal?: Williams Pantycelyn (rhan 3)
Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William...
-
Pennod 65 - ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2)
Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y...
-
Pennod 64 - ‘Williams biau’r Emyn’: Williams Pantycelyn (rhan 1)
Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar...
-
Pennod 63 - Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd
Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Branwen ferch Llŷr
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Gwyn Rhydderch
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Trafferth mewn Tafarn
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau.…
more -
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Mis Mai a Mis Tachwedd
‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Yr Wylan
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Marwnad Owain ab Urien
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau…
more -
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Gwaith Argoed Llwyfain
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Taliesin
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad…
more -
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 24
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf,...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 1
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr…
more -
Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Aneirin
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi,...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A): Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn…
more -
Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun...
-
Yr Hen Iaith (Lefel A): Aneirin gan Iwan Llwyd
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn…
more -
Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac...
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
HOSTED BY
Mimosa Cymru
CATEGORIES
Loading similar podcasts...